Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 7 Mawrth 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(51)v3

 

<AI1>

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (30 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Remploy (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI4>

<AI5>

5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) 

NNDM4863

 

Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn hybu cyllid a gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar alluogi ystod eang o ddulliau teithio cynaliadwy a charbon isel i gael eu defnyddio mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol.

 

Gellir gweld y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drwy fynd i:

http://wales.gov.uk/topics/transport/publications/ntp/?skip=1&lang=cy

 

Gyda chefnogaeth:

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

</AI5>

<AI6>

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM4930 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90% o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf. 

 

2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009.

 

3. Yn gresynu’n fawr wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i gynghorau Cymru, gan wrthod y cyfle i'r 22 awdurdod lleol rewi'r dreth gyngor.

 

4. Yn gresynu ymhellach yr amcangyfrifir y bydd y dreth gyngor yng Nghymru yn cynyddu bron i 2.2% ar gyfartaledd dros y flwyddyn nesaf.

5. Yn mynegi siom nad yw'r rhan fwyaf o gartrefi Cymru wedi cael cymorth gyda chostau byw beunyddiol o ganlyniad i fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i awdurdodau lleol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 1, dileu “croesawu” a rhoi “nodi” yn ei le.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, ar ôl ‘y flwyddyn nesaf’ rhoi ‘ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad’.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni.

 

[os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 3, 4 a 5 a rhoi’r canlynol yn eu lle:

 

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny.

 

Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllideb ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed.

 

Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu pwynt 3.

 

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu pwynt 5.

 

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y bydd cynghorau’n elwa ar refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol.

</AI6>

<AI7>

7. Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

 

NDM4931 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno ysgogiad ariannol cynhwysfawr ar gyfer yr economi, sy’n cynnwys buddsoddiad cyfalaf a ddaw o ffrydiau ariannu y tu allan i’r grant bloc; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol; a

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ym mhwynt 2, ar ôl ‘pellach’, rhoi ‘, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch,’.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

 

'gan gynnwys diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau hyd at werth ardrethol o £12,000’.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr pe bai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.

</AI7>

<AI8>

Cyfnod Pleidleisio

 

</AI8>

<AI9>

8. Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM4929 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

 

“Clywch, Clywch” – Gwella Acwsteg yn yr Ystafell Ddosbarth

 

Mae’r ddadl fer hon yn ceisio tynnu sylw at yr anawsterau y mae plant ysgol sydd â nam ar eu clyw yn eu hwynebu wrth geisio gwrando ar eu hathro mewn ystafell ddosbarth sydd ag acwsteg wael, a chefnogi galwadau am roi mwy o ystyriaeth i acwsteg wrth ddylunio ysgolion ac ystafelloedd dosbarth newydd.

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 13 Mawrth 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>